Pwy?

Mae Optimwm yn darparu arbenigedd yn y cyfryngau digidol ac addysg ac yn cynnwys rheoli prosiect profiadol. Gan dynnu ar 16 mlynedd o brofiad yn y diwydiant digidol a meddalwedd, mae ein gwybodaeth, ein profiad a’n darpariaeth wedi sicrhau cyflwyniad llwyddiannus o brosiectau proffil uchel. Mae ein cleientiaid mwyaf diweddar yn cynnwys: S4C, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Bangor, JDJ Arddangosfeydd, a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

 

Mae ein hymagwedd at ein holl waith a gomisiynir yn cael ei hennill o weithio gyda’r gorau yn y diwydiant ac mae ein gwerthfawrogiad o’r angen i sicrhau darpariaeth amserol yn hollbwysig. Mae gwerthoedd Optimwm wedi’u seilio’n gadarn ar ansawdd a’r ymgyrch i ragoriaeth. “Rydym yn gweithio gyda’r gorau er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r gorau.”

 

Ni fyddwch byth yn cael yr arfer o ‘werthu cryf’ gan Optimwm gan fod hyn yn sicr ddim yn rhan o’n harddull ni. Byddai’n well gennym pe baech yn gweld beth y gallwn ei wneud i chi, yr hyn yr ydym wedi’i wneud a’r hyn y gallwn ei ddarparu i chi. Rydym yn darparu profiad agos a chyfeillgar, gan sicrhau’r sgiliau, gwybodaeth a safon y byddech yn ei ddisgwyl gan sefydliad mawr, ac eto gyda’r profiad agos y byddech yn ei ddisgwyl gan gwmni sy’n ffocysu ar y cwsmer. Ry’n ni mwynhau adeiladu perthynas parhaol gyda’n cleientiaid a gwerthfawrogi pob cyswllt yn fawr.

Menu