Ap Cydymaith S4C Dal Ati
Mae hyn yn cyfuno elfennau o ddysgu traddodiadol ar-lein gyda thechnoleg integreiddio teledu arloesol. Yn ei ffurf symlaf mae’r sgriniau dysgu mwyaf traddodiadol yn ffurfio craidd y dysgu tra fod yr ymarferoldeb ail sgrîn yn integreiddio yr ap, y cynnwys a’r dysgu mewn i ap gydymaith ar gyfer rhaglenni oriau brig.
O rhyngwyneb deniadol sy’n seiliedig ar ddewislen, mae’r defnyddiwr yn dewis y cynnwys sy’n ymwneud â’r rhaglen a darlledir fel rhan o’r gwasanaeth dysgu iaith wythnosol. Gall defnyddwyr ryngweithio â chynnwys y rhaglen a dysgu’r iaith Gymraeg trwy weithgareddau darllen ac ymarfer sydd ar gael. Mae’r cynnwys a ddatblygwyd ac a olygwyd gan diwtoriaid iaith arbenigol hefyd yn darparu gwybodaeth ddiwylliannol ar Gymru a’i threftadaeth.
Oherwydd y terfyn amser byr a dyddiad y darllediad cyntaf wedi’i gytuno, roedd yr ap a ddatblygwyd, gan ddefnyddio dull iteraidd, yn caniatáu rhyddhau fersiwn cyntaf a oedd yn uchel ar gadernid ond yn isel o ran ymarferoldeb. Roedd adborth gan ddefnyddwyr a ffurfiant y cynnwys yn arwain datblygiad yr ap yn nhermau ymarferoldeb yn ogystal â’r rhyngwyneb defnyddiwr. Roedd y dull hwn yn sicrhau bod y gwasanaeth newydd a oedd yn cael ei ddarparu gan y darlledwr, yn hyblyg, roedd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru fel y prif noddwr i gael canlyniadau amlwg yn eu dymuniad i symud dysgwyr Cymraeg o lefelau canolradd ag uwch i ddysgwyr rhugl.
iOS : http://moil.in/dalatiios / Android : http://moil.in/dalatidroid